The World’s Oldest National Youth Orchestra

Cerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Hynaf y Byd

The National Youth Orchestra of Wales

The National Youth Orchestra of Wales is an organisation which provides excellent training in orchestral playing for the talented musicians of Wales.

The orchestra, fondly called The Nash, was formed in 1945 and was the very first national youth orchestra in the world. From the beginning it has inspired young musicians to enjoy making music throughout their lives and very many have gone on to play in some of the top orchestras in Britain or abroad.

The Nash has been conducted by many eminent conductors over the years and training is provided by some of the best instrumental teachers in the country. Students benefit enormously from the first-class tuition and the thrilling experience of making music together at a high standard. It is no exaggeration to say that the Nash holds a special place in the hearts of all who have been a part of it.

The Friends of NYOW

The Friends of the National Youth Orchestra of Wales was formed over thirty years ago to provide support for the orchestra and a network for past members to keep in touch both with the orchestra and with each other.

Every year the Friends give bursaries to orchestral members who would otherwise be unable to accept their place on the course. We also award two prizes to promising string players. The prizes are named “The Irwyn Walters Awards” in honour of the man who founded the NYOW nearly eighty years ago. Several other prizes and bursaries are generously funded by individual members of the Friends.

We would like to invite you to become a Friend. As well as providing much-needed financial support to the most talented young musicians in Wales, you will receive Newsletters to keep you up to date with Nash events and Friends’ activities.

If you would like to become a member of the Friends of NYOW, please click on the button “Join here” below.

Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru

Mae Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn sefydliad sy’n darparu hyfforddiant rhagorol mewn chwarae mewn cerddorfa i gerddorion dawnus Cymru.

Ffurfiwyd y gerddorfa, y cyfeirir yn annwyl ati fel y Nash, ym 1945 a hi oedd y gerddorfa ieuenctid genedlaethol gyntaf yn y byd. O’r dechrau, mae wedi bod yn ysbrydoliaeth i gerddorion ifanc fwynhau creu cerddoriaeth drwy gydol eu bywydau ac mae llawer iawn wedi mynd ymlaen i chwarae yn rhai o’r cerddorfeydd gorau ym Mhrydain neu dramor.

Mae’r Nash wedi cael ei harwain gan lawer o arweinyddion amlwg dros y blynyddoedd a darperir
hyfforddiant gan rai o athrawon offerynnol gorau’r wlad. Mae myfyrwyr yn elwa’n fawr o’r hyfforddiant o’r radd flaenaf a’r profiad gwefreiddiol o greu cerddoriaeth gyda’i gilydd ar lefel uchel. Nid gor-ddweud yw dweud bod gan y Nash le arbennig yng nghalonnau pawb a fu’n rhan ohoni.

Ffrindiau CGIC

Ffurfiwyd Ffrindiau Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl i gefnogi’r gerddorfa a rhwydwaith i gyn-aelodau gadw mewn cysylltiad â’r gerddorfa a chyda’i gilydd.

Bob blwyddyn mae’r Ffrindiau yn rhoi bwrsariaethau i aelodau cerddorfaol na fyddent fel arall yn
gallu derbyn eu lle ar y cwrs. Rydym hefyd yn dyfarnu dwy wobr i chwaraewyr llinynnol addawol, sef
‘Gwobrau Irwyn Walters’ er anrhydedd i’r gŵr a sefydlodd CGIC bron i wythdeg mlynedd yn ôl. Mae
nifer o wobrau a bwrsariaethau eraill yn cael eu hariannu’n hael gan aelodau unigol o blith y
Ffrindiau.

Hoffem eich gwahodd i fod yn Ffrind. Yn ogystal â darparu cymorth ariannol mawr ei angen i’r
cerddorion ifanc mwyaf talentog yng Nghymru, byddwch yn derbyn Cylchlythyrau i roi’r newyddion
diweddaraf i chi am ddigwyddiadau’r Nash a gweithgareddau’r Ffrindiau.

Os hoffech ddod yn aelod o Ffrindiau CGIC, cliciwch ar y botwm “Ymunwch yma” isod.

.